English

Archebu Cludiant i’r Ysbyty

 

Rhif ffôn y Ganolfan Archebu Cludiant yw 0844 8700888

 

Darperir Gwasanaethau Cludiant Ysbyty i helpu cleifion i gyrraedd eu hapwyntiad yn yr ysbyty neu’r clinig.  O hyn ymlaen, o ganlyniad i newidiadau cadarnhaol yn y ffordd o archebu cludiant, os bydd angen ambiwlans ar gleifion i gadw eu hapwyntiad cyntaf yn yr ysbyty fe fyddant yn archebu eu cludiant i’r ysbyty yn uniongyrchol trwy Ganolfan Archebu Cludiant.

 

Dylid archebu cludiant ar gyfer pob apwyntiad arall yn yr ysbyty pan ddewch chi i gadw eich apwyntiad.  Mae hyn yn wasanaeth ar wahân i’r gwasanaeth ambiwlans brys – os oes angen ambiwlans arnoch chi mewn argyfwng meddygol fe ddylech chi alw 999 neu 112 bob amser.

 

Pan gewch chi eich llythyr apwyntiad cyntaf oddi wrth yr ysbyty, dylech chi alw’r Ganolfan Archebu Cludiant ar 0844 8700888.

 

Fe fydd y Ganolfan Archebu Cludiant yn dechrau derbyn bwciadau ar y dyddiadau isod.

 

NEWIDIADAU YN EICH APWYNTIAD

 

Cofiwch – os bydd eich apwyntiad yn cael ei newid am unrhyw reswm, rhowch wybod i’r Ganolfan Archebu Cludiant!

 

SUT GALLA I OFYN AM GLUDIANT?

 

Bydd yn rhaid ichi ffonio’r Ganolfan Archebu Cludiant o leiaf un wythnos cyn dyddiad eich apwyntiad, ond gorau po gyntaf.  Ni fydd y Ganolfan Archebu’n derbyn bwciadau fwy na 3 mis ymlaen llaw.

 

Cyn ffonio, byddwch â phapur a phin ysgrifennu wrth law, ynghyd â’r manylion canlynol:

 

  • Eich cyfeiriad (gan gynnwys y côd post)
  • Eich rhif ffôn
  • Eich rhif GIG/rhif ysbyty
  • Enw’r Ysbyty / Clinig / Ganolfan Driniaeth ac
  • Enw’r adran lle y mae eich apwyntiad
  • Dyddiad ac amser eich apwyntiad

 

Mae’r Ganolfan Archebu ar agor o 8:30 yb tan 5:00 yp rhwng dydd Llun a dydd Iau, ac o 8:30 yb tan 4:00 yp ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau cyhoeddus.

 

Os oes hawl gennych chi I gludiant, fe fydd yn cael ei archebu ar eich cyfer ac fe gewch chi rif archebu.  Nodwch y rhif hwn os gwelwch yn dda, gan y bydd ei angen arnoch chi os oes unrhyw holiadau gennych chi.

 

Os ydych chi wedi derbyn apwyntiad ar frys ac nad yw’n bosibl ichi roi wythnos o rybudd, galwch y Ganolfan Archebu Cludiant cyn gynted â phosibl, ac os oes hawl gennych chi i gludiant fe wnawn ni ein gorau i’w drefnu ichi.

 


dylunwyd gan emedica

Meddygfa Heol Dyfed, Heol Dyfed, Castell-Nedd, SA11 3AW
 

Wedi ei ddiweddaru ar 30 Ebrill 2007