YMGYRCH BRECHIAD FFLIW

 

Nid annwyd gwael mo’r ffliw. Mae’r ffliw yn glefyd firol difrifol  sydd yn hawdd ei ddal, ac fel arfer, yn arwain at symptomau chwerw. Gallwch deimlo’n sâl am wythnosau.

Yn flynyddol, mae’r feddygfa yn dechrau ei Ymgyrch Brechiad Ffliw ym mis Hydref. Mae hyn yn darparu amddiffyniad yn erbyn y salwch cyn i dymor y ffliw ddechrau. Fe fydd y Dderbynfa yn dechrau trefnu apwyntiadau ym mis Medi ar gyfer yr amryw o glinigau ffliw sy’n cael eu cynnal gan feddygon a nyrsus y practis.

Mae’r Adran Iechyd yn argymell yn gryf y dylai pawb sydd yn 65 oed neu’n hyn gael brechiad ffliw blynyddol. Hefyd, dylai pobl iau sydd yn  y grwpiau perygl canlynol, cael brechiad ffliw bob blwyddyn, gan eu bod yn fwy tebygol o ddioddef cymhlethdodau ffliw, fel niwmonia, a all fod yn ddifrifol iawn ac o bosib, yn angheuol.

 

Clefyd Siwgr / Diabetes

Math 1 - (diabetes dibynnol ar inswlin)

Math 2 - (diabetes sydd ddim yn dibynnol ar   

                 inswlin)

Problemau  Anadlol

Asma

COPD

Broncitis cronig

Emffysema

Ffibrosis Systig

Bronciectasis

Atal Imiwnedd

Asplenia

Steroids dogn uchel

HIV

Derbynwyr triniaeth radio/cemotherapi

Problemau Calon

Clefyd y galon ischaemaidd

Trawiad ar y galon

Methiant y galon

Clefyd Arennol

Methiant arennol cronig

Syndrom neffrotaidd

Derbynwyr trawsblaniad

 

Os ydych yn cwympo o fewn i un o’r grwpiau sy’n cael eu hargymell yma, cysylltwch â’r feddygfa os gwelwch yn dda. Fe fyddwch yn gymwys i dderbyn brechiad ffliw yn rhâd ac am ddim. Bydd hyn yn eich darparu gydag amddiffyniad hanfodol bwysig yn erbyn straen ffliw eleni.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


dylunwyd gan emedica

Meddygfa Heol Dyfed, Heol Dyfed, Castell-Nedd, SA11 3AW
 

Wedi ei ddiweddaru ar 25 Mawrth 2005