![]() ![]() |
||
![]() |
Apwyntiadau English > Rhaid gwneud apwyntiad ar gyfer pob ymgynghoriad. Ceisiwn eich gweld o fewn 10 munud o amser eich apwyntiad. Gallwch wneud apwyntiad dros y ffôn rhwng 8.30 yb a 5.30 yh. l. Mae yn gyfrifoldeb arnoch i roi gwybodaeth i'r practis cyn gynted ag sy'n bosibil, os na allwch fod yn bresennol am eich apwyntiad. Drwy hyn, gallwn gynnig yr apwyntiad i rywun arall ac osgoi oedi di-angen. Mae doctoriaid a nyrys y feddygfa ar gael i’ch cynghori dros y ffôn rhwng 11.30 yb – 12 canol dydd, a 3 yh – 3.30 yh bob diwrnod gwaith. Ymgynghoriadau Drwy Apwyntiad
O ddydd Llun i ddydd Gwener. Meddygfa Fore 9yb – 12 canol dydd Meddygfa Brynhawn 3yh – 5.30 yh Nid oes apwyntiadau ar y penwythnos. Apwyntiadau Mewn Argyfwng
Os oes gennych broblem meddygol na all aros nes yr apwyntiad nesaf sydd ar gael, fe’ch gwelwn ar yr un dydd fel mater o argyfwng. Mae apwyntiadau mewn argyfwng yn fyrach o ran hyd, ac yn delio â phroblemau sy’n galw am sylw buan yn unig. Nid ydym yn ailadrodd prescripsiynnau mewn apwyntiadau argyfwng. Amser Hyfforddiant Mae'r feddygfa ar gau o 12 canol dydd i 6 yh bob ail ddydd Mercher o bob mis ar gyfer hyfforddiant meddygon a staff. Trefnir hyn gan Fwrdd Iechyd Lleol Nedd Port Talbot ar gyfer ardal Nedd Port Talbot. ****************** Mae gennych yr hawl i gael eich trin gyda chwrteisi bob amser, a disgwylir i'r un cwrteisi gael ei ymestyn i aelodau'r practis. Ni fydd y practis yn goddef ymddygiad amharchus na ffyrnig yn y feddygfa, boed ei fod wedi ei anelu at staff neu gleifion eraill. Fe fyddwn yn tynnu eich enw oddi ar ein cofrestr os ydych yn camfihafio. Grwp partneriaeth yw y practis. Beth bynnag, mae gan ein cleifion rhyddid i ddewis y meddyg yr hoffent eu gweld os oes ffafriaeth. |
|
dylunwyd gan emedica |
Meddygfa Heol Dyfed, Heol Dyfed, Castell-Nedd, SA11 3AW |
|
|
Last updated: 29/08/2006
|
||