![]() ![]() |
||
![]() |
Clinigau English > Er mwyn ein helpu i ddarparu llawer o'n gwasanaethau iechyd, mae'r feddygfa yn cynnal llawer of glinigau yn reolaidd. Rhaid gwneud apwyntiad ar gyfer clinig. Dyma'r clinigau a gynhelir yma: Clinig mamoliaeth - Dydd Mawrth Yfydwraig gymunedol sy'n cynnal y clinig yma. Mae'r clinig yn delio â phob agwedd o ofal mamoliaeth, yn cynnwys sgrinio, cyngor ar ddeiet ac atchwanegiadau, sganio uwchsain, a bwcio ar gyfer esgoriad. Clinig Asma - wythnosol Dan ofal nyrs y practis, ar gyfer rheoli meddyginiaeth asma a phrofion gweithrediad yr ysgyfaint. Clinig Diabetig - wythnosol Dan ofal Dr Howe a nyrs y practis, ar gyfer cadw golwg ar rheolaeth siwgr yn y gwaed, meddyginiaeth, edrych ar traed a llygaid, a chyngori ar ddeiet. Clinig Pwysau Gwaed - wythnosol Dan ofal nyrs y practis, ar gyfer rheoli pwysau gwaed cleifion sydd â phwysau gwaed uchel. Clinig Rhwbiad o'r Groth (Smear) - unwaith neu ddwywaith yr wythnos Ar gyfer cymryd rhwbiadau o'r groth a chyngor ar arbrofion y frest. Dr McMillan, Dr Brown a nyrus y practis sydd yn rhedeg y wasanaeth yma. Clinig Babanod - Dydd Iau 1.00-2.30 yh. Ar gyfer cadw golwg ar ddatblygiad babanod a brechiadau. Dan ofal yr ymwelwyr iechyd, y doctoriaid, a nyrus y practis. Plîs peidiwch dod â phlant sy'n sâl i'r clinig yma - rhaid iddynt gael apwyntiad.
|
|
dylunwyd gan emedica |
Meddygfa Heol Dyfed, Heol Dyfed, Castell-Nedd, SA11 3AW |
|
|
Wedi ei ddiweddaru ar 13/06/2006
|
||