Argyfwng                                                                    English >

 

Os oes gennych broblem sy’n galw am sylw buan, falle bydd rhaid i chi wneud apwyntiad mewn argyfwng, mynnu ymweliad i’r cartref  (yn ystod oriau gweithio), neu cael eich trîn gan y wasanaeth argyfwng y tu allan i oriau. Gallwch dderbyn cyngor unrhyw bryd drwy gysylltu â “NHS Direct” ar 0845 46 47.

 

Apwyntiadau mewn Argyfwng

 

Os oes gennych broblem meddygol na all aros nes yr apwyntiad nesaf sydd ar gael, fe’ch gwelwn ar yr un dydd fel mater o argyfwng. Mae apwyntiadau mewn argyfwng yn fyrach mewn hyd, ac yn delio â phroblemau sy’n galw am sylw buan yn unig.

Ymweliadadau i’r Cartref

 

Dim ond cleifion sydd yn glwm i’r cartref ac sydd heb ffordd o gyrraedd y feddygfa all elwa o ymwelidau i’r cartref. Dylid mynnu ymweliadau i’r cartref erbyn 10am os yw hynny’n bosibl. Fe fydd y derbynwyr yn gofyn am fanylion fel y gallwn rhoi blaenoriaeth i’r materion pwysicaf. Mae’n bosib y bydd rhaid i ni gysylltu a chi er mwyn cael rhagor o fanylion. Plîs nodwch, mewn rhai sefyllfaoedd (ee argyfyngau lle mae bywyd dan fygythiad), byddwn o’r farn ei fod yn fwy addas i chi fynd yn syth i’r ysbyty mewn ambiwlans, heb ymweliad i’ch cartref – fe fyddwn yn eich cynghori ynglyn â hyn.

 

Argyfyngau y tu allan i oriau

 

Defnyddir y wasanaeth argyfyngau y tu allan i oriau er mwyn delio ag argyfyngau sydd y tu allan i’r oriau gweithio cyffredin ( ar ôl 6.30 yh yn ystod yr wythnos ac unrhyw bryd ar y penwythnos). Ffoniwch y feddyga ar 01639 635331 am ragor o fanylion. Mae’n bosib y bydd rhaid i chi fynd i’r ganolfan driniaeth yn Ysbyty Nedd a Phort Talbot, neu falle bydd rhaid cael ymweliad. Ar hyn o bryd, “Primecare” sydd yn gyfrifol am y wasanaeth hon, ac ni fyddwch yn gweld eich meddyg arferol. Gallwch ffeindio taflen wybodaeth am y wasanaeth hon yma.

Mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am y wasanaeth tu allan i oriau.

 


dylunwyd gan emedica

Meddygfa Heol Dyfed, Heol Dyfed, Castell-Nedd, SA11 3AW
 
Wedi ei ddiweddaru ar 13/06/2006