![]() ![]() |
||
![]() |
Hafan English > Croeso i wefan Meddygfa Heol Dyfed. Yma fe ffeindiwch wybodaeth am y feddygfa, ei staff, a'i gwasanaethau. Cewch wybodaeth ar sut i wneud apwyntiadau, a pha chamau sydd rhaid eu cymryd mewn achos o argyfwng meddygol, neu os oes rhywun yn sâl tu allan i oriau agor y feddygfa. Er mwyn ffeindio'ch ffordd o gwmpas y safle yma, defnyddiwch y bar glas ar ochr y dudalen, neu cliciwch yr ysgrifen glas sydd wedi ei danlinelli. Y Feddygfa Ystyrir y feddygfa fel un o brif sefydliadau meddygol Castell-Nedd. Symudon ni i'r safle presennol yn 1974, ac mae gennym fynedfa addas ar gyfer pobl anabl. Practis hyfforddiant yw hwn, ac yn bresennol, mae gennym Gofrestydd GP (doctor cymwys sy'n hyfforddi ar gyfer meddygaeth deuluol). O dro i dro mae'n bosib y bydd myfyrwyr meddygol yma. Gallwch weld map o'r ardal yma ( yn agor i ffenest newydd - streetmap.co.uk) Oriau Agor Mae'r dderbynfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.30 yb nes 5.30 yh. Sicrhau SafonO dro i dro fe fydd y practis yn cymeryd rhan mewn asesiadau gwirfoddol o safon ei gofal iechyd. Fe fydd tîmau asesu yn ymweld â’r feddygfa o Ysgol Feddygol Caerdydd a Choleg Brenhinnol Meddygon Teulu. Mae’r asesiadau yn cynnwys arolygiad o gofnodion ein cleifion. Meddygon o’r tu allan i’r practis yw yr arolygwyr, ac mae ganddynt ddyletswydd i sicrhau cyfrinachedd. Ni fydd aelodau’r tîm asesu’n lledu unrhyw wybodaeth bersonnol. Mae gennych hawl i wrthod hyn. Os ydych am wrthod, dylech ddweud wrth aelod o staff y practis. Fe fyddwn yn parchu eich penderfyniad i wrthod, ac ni fydd ein gofal amdanoch yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd.
Cynllun Cyhoeddiad Meddygfa Heol Dyfed Mae gennych hawl i wybod am weithgareddau y practis a hawl mynediad I wybodaeth personol arbennig a ddelir yma.
Er mwyn sicrhau dirgelwch cleifion, ni allwn drafod materion meddygol personol gydag unrhywun ond y claf ei hun (neu'r oedolyn sydd yn gyfrifol am y plentyn). Dim ond aelodau y Brif Tim Gofal Iechyd sydd a mynediad i'r wybodaeth sydd yma yn y practis. Ni fyddwn yn datguddio y wybodaeth yma i unrhyw barti arall heb gael caniatad y claf. |
|
dylunwyd gan emedica |
Meddygfa Heol Dyfed, Heol Dyfed, Castell-Nedd, SA11 3AW |
|
|
Wedi ei ddiweddaru ar 8 Rhagfyr 2005
|
||